RHEOLAU CYSTADLU
ER MWYN CYSTADLU YN
RAS RYNGWLADOL YR WYDDFA MAE’N DDYLETSWYDD ARNOCH YMGYFARWYDDO
GYDA’R RHEOLAU ISOD:
1. Rhaid i
bob cystadleuydd fod dros 18 oed
2. AMODAU CYSTADLU: Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 12 mis o brofiad
rhedeg mynydd mewn o leiaf un ras categori canolig neu hir ‘A’ neu
farathon (hanner neu lawn) cyn dyddiad Ras yr Wyddfa
3. Bydd y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr ar y 1af o Orffennaf neu
pan fydd 500 o redwyr (yr uchafswm) wedi cofrestru. Ni dderbynnir
ceisiadau wedi’r dyddiad cau.
4. Rhaid i bob rhedwr gael ei rif personol ar y diwrnod. Ni
chaniateir newid rhifau nac enwau.
5. Rhaid gwisgo’r rhif yn amlwg ar flaen eich crys rhedeg.
6. RHAID mynd at farshal neu swyddog o’r ras os yn penderfynu rhoi’r
gorau iddi yn ystod y ras. Gall peidio â gwneud hyn olygu y byddai
unrhyw gais arall i Ras yr Wyddfa yn cael ei gwrthod yn y dyfodol.
7. AMSERU ELECTRONIG. Pan roddir ‘chips’ electronig rhaid eu gosod
yn ddiogel yn ôl y cyfarwyddiadau amgaeëdig. Cyfrifoldeb y rhedwr yw
sicrhau fod y ‘chip’ hwn yn cael ei ddychwelyd ar ddiwedd y ras
neu’n cael ei yrru at Drefnydd y Ras o fewn 14 diwrnod i’r ras.
Codir ffi o £20.00 os na ddychwelir y teclyn a gellid gwrthod unrhyw
gais arall i redeg yn Ras yr Wyddfa.
8. Y TYWYDD. Dylid cario het, menig a dillad glaw addas rhag ofn y
bydd y tywydd yn arw. Gall y pwyllgor fynnu bod y rhedwyr yn
cyrraedd Clogwyn o fewn awr i ddechrau’r ras mewn tywydd garw neu
ganslo’r ras yn gyfan gwbl. Ni fydd y ffi cystadlu’n cael ei
ddychwelyd mewn amgylchiadau o’r fath.
9. Rhaid rhedeg yn ôl rheolau UK Athletics
NODER: mae rhedeg mynydd yn gamp beryglus. Rhaid i chi fod yn
ymwybodol o’r anafiadau posib cyn cystadlu. Rhaid i chi ddatgan ar y
ffurflen gais na fydd pwyllgor Ras Rhyngwladol yr Wyddfa yn gyfrifol
mewn unrhyw ffordd am eich diogelwch na’ch eiddo yn ystod y ras. CHI
sy’n gyfrifol am eich diogelwch personol.
DIFFINIAD O RAS FYNYDD
CATEGORI A
‘M’ Ras ganolig o 6 milltir neu fwy ond yn llai na 12 milltir, gyda
dringfa o o leiaf 250’ y filltir.
‘L’ Ras hir dros 12 milltir gyda dringfa o o leiaf 250’ y filltir.