HANES Y RAS
Dyma un o rasus mynydd gorau a phwysicaf Ewrop ac mae’n cael ei chyfrif yn galetach nag unrhyw ras fynydd arall oherwydd y tirwedd garw. Mae llwyddiant ysgubol y ras yn ei symlrwydd - rhedeg am y cyntaf o ymyl llyn Padarn i ben mynydd uchaf Cymru a Lloegr ac yn ôl i lawr, sef pellter o 10 milltir union.
Cynhaliwyd y ras gyntaf ar 19 Gorffennaf, 1976 pan roddodd Ken Jones, brodor o Lanberis, y syniad gerbron pwyllgor Carnifal Llanberis mai da o beth fyddai trefnu ras o’r pentref i gopa’r Wyddfa ac yn ôl. Cystadlodd 86 o redwyr i gyd ac enillydd y ras gyntaf oedd Dave Francis o Fryste a gwblhaodd y cwrs mewn amser o 1 awr 12 munud 05 eiliad.
“Chwilfrydedd oedd cychwyn yr holl beth,” eglura Ken. “Fel cerddwr a rhedwr fy hun roeddwn i wedi meddwl droeon tybed beth fyddai’r amser cyflyma’ y byddai person yn gallu cyflawni’r gamp. Felly, dyma fynd ati i drefnu ras o ganol pentra Llanberis i ben Yr Wyddfa ac yn ôl fel rhan o weithgareddau’r Carnifal ac fe dyfodd y peth o hynny.”
Yn 1980 gwnaed cysylltiad arbennig gyda’r Eidalwyr wrth i Ras yr Wyddfa a phentref Llanberis efeillio gyda ras fynydd y Trofeo Vanoni sy’n cael ei chynnal ym mhentref Morbegno ar odre’r Alpau bob mis Hydref.
“Ers bron i chwarter canrif mae trigolion Llanberis wedi bod yn agor eu drysau ac estyn croeso i redwyr o Morbegno ac erbyn hyn rydan ni i gyd yn dipyn o ffrindia’,” ychwanega.
Darlledwyd Ras yr Wyddfa yn fyw am y tro cyntaf ar deledu ym 1987 ar S4C. Yn ôl y trefnwyr, dyna’r tywydd gwaethaf erioed iddynt ei gael ar gyfer y ras. Roedd yna gymaint o niwl a glaw fel nad oedd modd gweld dim byd wedi’r pwynt hanner ffordd.
“Mae Ras yr Wyddfa yn un o ddigwyddiadau mawr y calendr chwaraeon cenedlaethol ac mae cannoedd o redwyr ar draws deg gwahanol genedl yn rhedeg bob blwyddyn mae hefyd yn ddigwyddiad pwysig iawn yn lleol ac yn fodd o roi Llanberis ar y map a denu twristiaeth i’r pentref sy’n hwb i’r economi lleol.”