NEGES GAN Y TREFNWYR

Croeso bawb i wefan ddiwygiedig Ras Ryngwladol yr Wyddfa 2008 a fydd yn trosglwyddo ein neges yn fyd eang, sef bod y ras hon yn ddigwyddiad a her y dylai pob rhedwr mynydd ei brofi unwaith yn eu bywydau.

Llynedd ymwelwyd â'r wefan hon dros 20,000 o weithiau a throsglwyddwyd pentref Llanberis a gogoniant Eryri i bedwar ban byd - ni all hyn ond bod o fudd i'r ardal a'i phobl.

Yn 2008 unwaith eto gobeithiwn groesawu rhedwyr a'u cefnogwyr o'r ynysoedd hyn ac Ewrop gyfan - rhai am y tro cyntaf - ond eraill yn gwneud eu pererindod blynyddol i Lanberis.

Hoffem fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor, yr holl wirfoddolwyr ac aelodau cymuned fusnes Llanberis am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd oherwydd heb eu cefnogaeth barod ni fyddai gennym ras i edrych ymlaen ati.

I gloi, pa genedl bynnag ydych chi estynwn groeso cynnes i chi gan obeithio eich gweld ymysg y 500 o ddechreuwr ar 26ain o Orffennaf 2008.